Rally ChampionshipsIrish Rally ChampionshipsNight NavOther Rally Championships2021 CalendarWorld Rally ChampionshipAutocrossRallycrossHillclimb, Autotest, EnduranceHillclimb |
Rali Bae Ceredigion/Cardigan Bay Rally (Closed Road) - 8 Sep 19Posted: September 8, 2019 2:23 AM - 4754 Hits
Results by: Amc Rally Results
Tom gets set to make history on first event of its kind in WalesPosted: September 6, 2019 1:18 PM
Tom Cave will travel just a few miles down the coast from his hometown of Aberdovey this weekend to the more southerly seaside resort of Aberystwyth for Sunday's (8th September) inaugural running of the Get Connected Rali Bae Ceredigion.
First ever closed road rally in Wales is launchedPosted: April 15, 2019 3:27 PM
The Rali Bae Ceredigion (Cardigan Bay Rally) was launched in impressive style at Aberystwyth University on Friday (12th April), with guests from the local community and the sport of rallying, together with a number of the event’s commercial partners, witnessing the announcement that the first closed road rally to ever be held in Wales will take place this year on 8th September.
Eight special stages (four in the morning that are repeated in the afternoon) 43 competitive miles Top quality roads chosen for their driving appeal Innovative park-and-ride service for spectators Spectacular scenery Showcase scrutineering on Saturday on Abersytwyth Esplanade HQ, Start, Finish and Service Park at Aberystwyth University 120 entry capacity Competitors from across the UK Strong interest from overseas teams Lansio rali cau ffyrdd gyntaf yng Nghymru Lansiwyd Rali Bae Ceredigion (Cardigan Bay Rally) mewn steil arbennig ym Mhrifysgol Aberystwyth ar nos Wener (12fed Ebrill), yng nghwmni gwesteion o’r gymuned leol a byd chwaraeon y rali, ynghyd â nifer o bartneriaid masnachol y digwyddiad, yn tystio cyhoeddiad y bydd rali cau ffyrdd gyntaf erioed i’w chynnal yng Nghymru yn digwydd eleni ar yr 8fed o Fedi. Dechreuodd y lansiad gyda chroeso yng nghyntedd Canolfan Celfyddydau’r Brifysgol, ble wnaeth y rheiny wnaeth fynychu gael y cyfle i ddarganfod mwy am y rali o’r byrddau stori a oedd yn cael eu harddangos a thrwy siarad gyda’r trefnwyr a oedd wrth law i ateb unrhyw gwestiynau. Yna gwahoddwyd y gwesteion i gymryd i’w seddau yn sinema’r Brifysgol i weld fideo hyrwyddol nad oedd yn unig yn darparu blas gweledol o’r hyn sydd i ddod, ond hefyd amlygodd y nodweddion allweddol (a gweler isod) sy’n gwneud y rali yma’n gystadleuaeth arloesol a fydd gobeithio’n torri tir newydd. Yn dilyn y fideo, fe wnaeth y cyflwynwyr Howard Davies ac Emyr Penlan - wnaeth drafod yn yr iaith Saesneg a’r Gymraeg - wahodd swyddogion allweddol y digwyddiad: Cadeirydd y pwyllgor trefnu oedd Phil Pugh, Clerc y Cwrs Wayne Jones, Cadeirydd y Daith Andrew Edwards a’r Rheolwr Masnachol Charlie Jukes, i ymuno gyda hwy ar y llwyfan ac i drafod y rali ymhellach ac i esbonio i’r cynulleidfaoedd beth fydd yn eu disgwyl ym mis Medi. Dilynwyd hyn gan bump o Lysgenhadon y Rali: gyrrwr tîm M-Sport Ford WRC Elfyn Evans, cyn cyd-yrrwr WRC a mentor chwaraeon modur Nicky Grist, Pencampwr Rali Prydain ddwywaith Dai Llewellin a chyd-yrrwr Pencampwr y Byd yn 2003 Phil Mills, gyda phob un ohonynt yn sôn am eu cefnogaeth am y digwyddiad a pha mor bles yr oeddent i weld cychwyn rhediad rali cau ffyrdd gyntaf eu gwlad. Y Llysgennad nad oedd yn medru bod yn bresennol ar y noson oedd y cyd-yrrwr parchus o Gymru, Ryland James. Nesaf ar yr agenda oedd y cyhoeddiad mai noddwr deitl y digwyddiad fydd manwerthwr ffôn symudol cwmni preifat mwyaf y DU sef Get Connected, gyda rheolwr gyfarwyddwr a chystadleuydd rheolaidd Damian Cole yn dweud ei fod e’n bles i fod ynghlwm â’r rali a'i fod yn bwriadu cystadlu yn y digwyddiad ei hun. Yn rhan olaf y cyflwyniad, daeth Is Ganghellor Prifysgol Aberystwyth Elisabeth Treasure i esbonio ei bod hi’n llawn cyffro bod y Brifysgol yn mynd i fod yn Bencadlys y rali ac y bydd yn cynnal y dechrau, diwedd a’r ardal gwasanaeth. Dilynwyd hi ar y llwyfan gan AS Ceredigion Ben Lake, wnaeth ddweud y gobeithia y daw’r digwyddiad â photensial o £1.5m o hwb i’r economi lleol, mae ef hefyd wrth ei fodd bod y rali’n digwydd yn ei ardal etholaeth ef ac mae’n ymrwymedig yn bersonol i helpu’r digwyddiad i fod yn un o lwyddiant. Yn dilyn y cyflwyniad, meddai Cadeirydd y pwyllgor trefnu Phil Pugh: “Mae’r digwyddiad lansiad wedi tanlinellu’r brwdfrydedd sy’n bodoli ar gyfer Get Connected Rali Bae Ceredigion. O’r eiliad y cafodd y rali ei hawgrymu mis Medi'r llynedd, rydym wedi cael ein syfrdanu gan y gefnogaeth a’r anogaeth yr ydym wedi eu derbyn oddi wrth bawb sydd ynghlwm: ein partneriaid masnachol, Prifysgol Aberystwyth, awdurdodau lleol, busnesau a phreswylwyr, yn ogystal ag aelodau ein clybiau modur lleol - a rhaid i mi eu diolch am eu cefnogaeth hyd yma. “Er bod yna llawer eto i’w wneud rhwng nawr a mis Medi, mae’r lleoliadau yn eu lle a’r daith bron wedi ei chwblhau. Rydym yn sicr y bydd natur y ffyrdd sy’n rhedeg drwy beth o olygfeydd mwyaf syfrdanol y byddwch yn eu darganfod unrhyw le yn y DU yn profi’n boblogaidd gyda thimau a gwylwyr. Felly gobeithiwn y daw’r rali’n achlysur blynyddol a’i thyfu i ddod yn ddigwyddiad cenedlaethol - os nad rhyngwladol.” Manylion Get Connected Rali Bae Ceredigion Yn dilyn arddangosfa o sesiynau archwilio ar rodfa’r dref, mae’r digwyddiad yn dechrau o’r Llyfrgell Genedlaethol yn gyfagos i Brifysgol Aberystwyth ar fore dydd Sul ac yn cynnwys pedwar cymal arbennig yn y bore dros gyfres o heolydd heriol ond eto pleserus ynghanol cefn gwlad syfrdanol. Bydd y cystadleuwyr yn heidio yn ôl i’r campws ar gyfer egwyl gwasanaeth y diwrnod cyn ail-yrru’r un pedwar cymal yn y prynhawn ac, wedi cwblhau cyfanswm o 43 milltir gystadleuol, yn dychwelyd i’r Brifysgol am seremoni gorffen. Creda’r trefnwyr y bydd y rali’n gosod safonau newydd pan ddaw i fynediad, cyfleustra, diogelwch a chyfleoedd gwylio syfrdanol. Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio arloesol yn cael ei gyflwyno ar ddiwrnod y rali, a fydd yn gweld bysau siartredig arbennig o Aberystwyth bob 15 - 20 munud ac yn cymryd gwylwyr yn uniongyrchol i feysydd dynodedig sy’n darparu mannau gwylio diogel a fydd wedi eu lleoli’n dda. Caiff y gystadleuaeth ei chefnogi gan Groeso Cymru a Chyngor Sir Ceredigion a’i rhedeg mewn cytundeb â rheoliadau a chanllawiau Deddf Traffig Ffyrdd y Llywodraeth a ddiweddarwyd yn 2018 i ganiatáu cystadleuaeth amserol ar ffyrdd cyhoeddus caeedig. Mae’r trefnwyr wrth eu bodd eu bod wedi ffurfio partneriaeth gyda Phrifysgol Aberystwyth, ei chyfleusterau a’i lleoliad daearyddol yn gwneud yn lleoliad perffaith i gynnal Pencadlys y digwyddiad, y dechrau, diwedd a pharc gwasanaethu. Gan ychwanegu i’w hapêl, mae llety gwely 3000+ y lleoliad yn cael eu cynnig i gystadleuwyr ar raddau cystadleuol iawn. Mae’r tîm trefnu’n cynnwys Pedwar Clwb Modur: Newtown and District, Aberystwyth and District, Lampeter and District a Teifi Valley. Noddwr deitl y rali yw manwerthwr ffôn symudol cwmni preifat mwyaf y DU sef Get Connected, sydd â 50 o siopau wedi eu seilio fwyaf yng Nghymru, un ohonynt yng nghanol tref Aberystwyth. Nodweddion allweddol:
· Wyth cymal arbennig (pedwar yn y bore sy’n cael eu hail-yrru yn y prynhawn) · 43 o filltiroedd cystadleuol · Heolydd ansawdd uchel wedi eu dewis am eu hapêl gyrru · Gwasanaeth arloesol Parcio a Theithio ar gyfer gwylwyr · Golygfeydd godidog · Arddangosfa archwilio ar ddydd Sadwrn ar Rodfa Aberystwyth · Pencadlys, Dechrau, Diwedd a Pharc Gwasanaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth · Lle i 120 o geir · Cystadleuwyr o ar draws y DU · Diddordeb cryf gan dimau tramor
Topics:
Rali Bae Ceredigion
|
Most PopularStoriesLinksProductsTwitter Feed |